Llwyddiant i
fywyd gwyllt a busnes
 
HAFAN NODAU AELODAETH
ASTUDIAETH ACHOS
COFRESTR AELODAU
YMUNO NEWYDDION CYSYLLTIADAU
AMDANOM NI

Mwynhewch lwyddiant i fywyd gwyllt a busnes
gan Iolo Williams
Naturiaethwr a Darlledwr
Noddwr, Ymddiriedolaethau Natur Cymru

Croeso i wefan y Partneriaethau Natur, sy'n amlinellu'r cynllun aelodaeth gorfforaethol a redir gan Ymddiriedolaethau Natur Cymru. Nod y cynllun arloesol hwn yw ymgysylltu â'ch busnes - a'ch staff - a'u cynnwys yn y gwaith o ddiogelu a gwerthfawrogi ein hetifeddiaeth naturiol wych.

Mae Cymru'n enwog am ei bywyd gwyllt a'i chefn gwlad ardderchog ond mae gennym hefyd orffennol diwydiannol balch. Nid oes neb gwell yng Nghymru nag Ymddiriedolaethau Natur Cymru am wneud cysylltiadau lleol rhwng bywyd gwyllt a phobl.

Mae'r cynllun yn cysylltu cwmnïau ag agenda gadwraeth y chwe Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru, gan roi rôl i chi a'ch cyflogeion mewn gwella eich ardal leol ar gyfer bywyd gwyllt. Ynghyd ag addysg a rhaglenni cymunedol, rhoddir pwyslais ar gynaliadwyedd, bioamrywiaeth, cynhwysiant cymdeithasol a buddiant cyhoeddus.

Rwy'n falch iawn o gefnogi'r cynllun Partneriaethau Natur hwn. Dewch yn Bartner Natur a helpwch i ddiogelu bywyd gwyllt yn y dyfodol gan greu llu o gyfleoedd ymarferol i'ch busnes. Darllenwch ein gwefan yn fanylach i weld sut y gallwn gydweithio i helpu eich busnes i gyflawni ei nodau a'i gyfrifoldebau corfforaethol - a bydd tirlun, bywyd gwyllt ac economi Cymru ar eu hennill.

 
     
Ffôn : 01600 740 358 | Fax : 01600 740 299 | e-bost : info@wildlifepartnerships.org | © Natur Partneriaethau 2006